Cyflwyniad

 

1.            Diben y papur hwn yw cynnig tystiolaeth i'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol mewn perthynas ag Elfen 4 yr Ymchwiliad i Dlodi – dulliau o drechu tlodi yn y gymuned.

 

 

Dull Llywodraeth Cymru o drechu tlodi

 

2.            Mae trechu tlodi yn flaenoriaeth sylfaenol i bob un o adrannau Llywodraeth Cymru.  Rydym wedi sicrhau ein bod yn ystyried aelwydydd sydd ag incwm isel yn y polisïau a'r rhaglenni yr ydym wedi'u datblygu, a byddwn yn parhau i wneud hynny.

 

3.            Mae ein hymrwymiad i gydraddoldeb yn sail i bopeth a wnawn, a dyna pam y mae trechu tlodi ac ymdrin â chanlyniadau, sy'n gyffredinol yn waeth ar gyfer y rhai hynny sy'n byw mewn tlodi, yn flaenoriaeth inni. Fel Llywodraeth, rydym am sicrhau bod gan bawb (er gwaethaf eu cefndir, eu hincwm, neu le y maent yn byw) yr un cyfleoedd ag unrhyw un arall i lwyddo, yr un cyfle cyfartal i gael cymorth gan y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt, gan gynnwys sicrhau bod eu hamgylchedd lleol yn un dymunol a diogel.

 

4.            Rhaglenni a chyllidebau prif ffrwd yw ein prif ddulliau o gyflawni hynny - ac maent yn chwarae rôl allweddol mewn perthynas â threchu tlodi a lleihau effeithiau tlodi. Mae gwneud y penderfyniadau iawn am fuddsoddi'n sylweddol ym meysydd allweddol polisïau datganoledig yn hanfodol, oherwydd gall y rhai hynny sy'n byw mewn tlodi elwa mewn modd anghyfartal.

 

5.            Dyma rai enghreifftiau:

 

-       Dros y pedair blynedd diwethaf, rydym wedi creu neu diogelu 150,000 o swyddi yng Nghymru, tra bo nifer y bobl sydd mewn gwaith yng Nghymru bron â bod y nifer isaf erioed. Mae creu swyddi a sicrhau twf yn ganolog i'n hymdrechion i wella ffyniant pobl Cymru.  Cyflogaeth yw'r ffordd orau allan o dlodi.

-       Bydd cyflwyno prosiect Plentyn Iach Cymru yn sicrhau bod rhaglen gofal iechyd graidd gyson a chyffredinol i Gymru gyfan ar gyfer y blynyddoedd cynnar.  Gall y rhai hynny sy'n byw mewn tlodi, ac sydd fwyaf mewn perygl o brofi canlyniadau gwaeth yn ystod cyfnod pwysig y blynyddoedd cynnar, elwa'n benodol ar y rhaglen honno.

-       Mae Safon Ansawdd Tai Cymru yn sicrhau bod pob landlord cymdeithasol yn gwella eu stoc o dai, fel eu bod yn cyrraedd lefel dderbyniol erbyn 2020. Bydd hynny'n golygu bod gan bob tenant cymdeithasol gartref boddhaol, sydd yn ôl y dystiolaeth yn gallu diogelu pobl rhag canlyniadau gwaeth o ran iechyd ac addysg.

 

 

 

 

-       Ers mis Ionawr 2015, mae system categoreiddio ysgolion wedi bod ar waith i ganfod yr ysgolion hynny sydd fwyaf angen cymorth ac arweiniad i wella. Mae perfformiad addysgol dysgwyr sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim (eFSM), yn elfen bwysig o'r dadansoddiad hwnnw. Os bydd perfformiad dysgwyr eFSM yn yr ysgol yn is na'r hyn a ddisgwylir, mae'r ysgol honno'n cael ei nodi'n un sydd angen cymorth ychwanegol.

-       Bydd Deddf Tai (Cymru) 2014 yn sicrhau bod mwy yn cael ei wneud gan yr Awdurdodau Lleol a'u partneriaid i helpu pobl sy'n ddigartref, neu mewn perygl o fod yn ddigartref.

 

6.            Mae'r rhaglenni penodol sy'n ymwneud â threchu tlodi a gaiff eu hariannu gan Lywodraeth Cymru, yn cydweithio â gwasanaethau prif ffrwd. Mae ein rhaglenni tlodi, y rhai sy'n seiliedig ar le a'r rhai nad ydynt yn seiliedig ar le, yn ychwanegu at yr hyn y mae gwasanaethau prif ffrwd yn ei gynnig, sef cymorth ychwanegol i'r cymunedau a'r unigolion hynny sydd fwyaf mewn angen.

 

Rhaglenni tlodi sy'n seiliedig ar le

 

7.            Drwy wasanaethau prif ffrwd a thrwy raglenni penodol, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio ar y cyd â chymunedau i sicrhau eu bod yn gydlynol, yn gadarn, yn gallu addasu i newid a gweithio mewn modd cydweithredol i leihau effeithiau tlodi. Mae gennym nifer o ddulliau i drechu problem gymhleth tlodi, ac mae cydweithio â chymunedau yn rhan bwysig iawn o hynny.

 

8.            Rydym o'r farn mai'r ffordd orau o drechu tlodi yw drwy ddefnyddio cymysgedd o raglenni cyffredinol a rhai sy'n seiliedig ar le. Mae hynny'n caniatáu inni gyrraedd cynifer o'r bobl hynny sydd angen cymorth ag sy'n bosibl, yn rhoi inni'r cyfle gorau i wella canlyniadau'r bobl hynny, ac yn helpu i sicrhau'r gwerth gorau o'r adnoddau prin sydd ar gael inni.

 

9.            Nid yw'r rhan fwyaf o'r rhaglenni sy'n anelu at helpu i drechu tlodi yn rhai sy'n seiliedig ar le, ac maent ar gael i bawb, yn seiliedig ar angen. Mae'r rhain yn cynnwys Rhaglen Cefnogi Pobl, Teuluoedd yn Gyntaf, Grant Amddifadedd Disgyblion, a'r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol. Fodd bynnag, mae targedu adnoddau ar gyfer cymunedau penodol sydd fwyaf eu hangen yn caniatáu i ymyriadau gael eu llunio ar gyfer anghenion y gymuned, i arbedion effeithlonrwydd gael eu gwneud, ac mae hefyd yn rhoi cyfle i adnoddau'r cymunedau eu hunain gael eu defnyddio. 

 

10.         Yn y bôn, mae sylw daearyddol i raglenni cyfalaf sy'n ceisio adfywio cymunedau a gwella amgylcheddau lleol. Mae'r holl fuddsoddiad cyfalaf yn seiliedig ar le, er ei bod yn bwysig i benderfynu ar ble y bydd y buddsoddiad yn cael ei wneud. Mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio sicrhau bod adnoddau'n cael eu rhoi i ardaloedd o amddifadedd. Drwy Leoedd Llewyrchus Llawn Addewid, mae'r Awdurdodau Lleol yn rhannu mwy na £100m ar gyfer cynlluniau adfywio hyd at 2017. Mae'r cyllid hwn yn cael ei fuddsoddi mewn canol trefi, cymunedau arfordirol, ac ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf. Rydym yn manteisio ar y cyfleoedd y mae ein buddsoddiad cyfalaf yn eu cynnig i greu cyfleoedd i bobl mewn cymunedau lleol, gan ein bod  yn cydnabod na ddylai ffrydiau cyllido gael eu hystyried ar wahân. Er enghraifft, yng Nghasnewydd, mae Cymunedau yn Gyntaf yn cynnig cyfleoedd hyfforddi pwrpasol ar gyfer aelodau o'r gymuned leol, fel eu bod mewn sefyllfa dda ac yn meddu ar y sgiliau i allu manteisio ar y swyddi sydd ar gael yn sgil y cynllun Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid yn eu hardal leol.

 

11.         Y ddwy brif raglen o ran trechu tlodi yn ôl ardal ddaearyddol yw: Dechrau'n Deg a Chymunedau yn Gyntaf. Mae cyfyngiadau daearyddol y rhaglenni hyn fel a ganlyn:

 

Dechrau'n Deg

Mae data o'r Adran Gwaith a Phensiynau a Chyllid a Thollau ei Mawrhydi yn rhoi gwybodaeth i'r Awdurdodau am ardaloedd daearyddol sydd â'r gyfran uchaf o blant dan 4 oed sy'n byw ar aelwydydd sy'n derbyn budd-daliadau.  Mae Dechrau'n Deg yn targedu'r ardaloedd hynny.

 

Cymunedau yn Gyntaf

Mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar y 10% o gymunedau mwyaf amddifad yng Nghymru, yn ôl diffiniad Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2011. Ym mhob achos, mae mwy o bwyslais ar sicrhau bod yr unigolion, teuluoedd a grwpiau mwyaf agored i niwed yn y cymunedau hynny yn cael cymorth yn yr ardaloedd hynny.

 

12.         Ers 2012, mae Cymunedau yn Gyntaf wedi cael rhywfaint o hyblygrwydd i weithio y tu allan i ffiniau Clystyrau. Er enghraifft, os bydd ysgol ar safle sy'n agos at Glwstwr, neu os byddant yn targedu grŵp penodol o bobl, ac mae rhai ohonynt yn byw y tu allan i ardal y Clwstwr. Y prif sylw yw'r bobl yn yr ardal a ddynodir.

 

13.         Mae cyllid allgymorth Dechrau'n Deg yn cynnig dull integredig i'r Gwasanaethau Cymorth i Deuluoedd sy'n defnyddio'r strwythurau a'r systemau a gaiff eu darparu gan Deuluoedd yn Gyntaf, Cymunedau yn Gyntaf a Dechrau'n Deg.  Amcanion allgymorth yw estyn maes Dechrau'n Deg i deuluoedd y mae eu hangen wedi'i nodi ond eu bod yn byw mewn ardaloedd nad ydynt yn rhai Dechrau'n Deg, cynnig elfen o hyblygrwydd wrth weithredu'r rhaglen, a darparu cymorth cyson i blant a theuluoedd sy'n symud allan o ardaloedd Dechrau'n Deg.

 

 

Cyflawniadau a llwyddiannau rhaglenni allweddol

 

14.         Ymyriaethau trawsbynciol yw Dechrau'n Deg a Chymunedau yn Gyntaf. Maent yn cynnig gwerth ychwanegol ar lefel leol i wasanaethau sydd eisoes yn bodoli. Maent yn cydweithio â gwasanaethau prif ffrwd a rhaglenni tlodi eraill i ddarparu amrywiaeth o ddulliau ymyrryd yn y cymunedau hynny y maent yn cynnig gwasanaethau.

 

Cymunedau yn Gyntaf

 

15.         Ers 2012, mae'r rhaglen wedi pwysleisio ar helpu'r bobl fwyaf agored i niwed sy'n byw mewn ardaloedd o amddifadedd, gan gydnabod nad yw tlodi yn effeithio ar bawb yn yr ardaloedd hynny i'r un graddau. Mae'r rhaglen wedi'i seilio ar lai o ardaloedd mwy nag y bu yn flaenorol, ac mae wedi datblygu dull mwy cadarn sy'n seiliedig ar ganlyniadau, gan ddefnyddio Atebolrwydd yn Seiliedig ar Ganlyniadau.

 

16.         Mae gan Gymunedau yn Gyntaf dri amcan strategol sy'n anelu at hybu Cymunedau Dysgu, Cymunedau Ffyniannus a Chymunedau Iachach. Mae'n canolbwyntio ar wella canlyniadau economaidd, addysgol/sgiliau ac iechyd ar gyfer pobl yn ein cymunedau mwyaf amddifad. Yn ystod y 12 mis hyd at Fawrth 2015, nodwyd y canlynol mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf:

§ Roedd 3,534 o gyfranogwyr wedi dechrau swyddi.

§  Roedd 59 o fentrau cymdeithasol wedi'u sefydlu gyda chymorth gan Gymunedau yn Gyntaf. 

§ Roedd 1,897 o gyfranogwyr wedi ennill sgiliau sylfaenol mewn TG.

§ Roedd 8,507 o gyfranogwyr wedi cael help i sicrhau eu bod yn cael y budd-daliadau yr oedd ganddynt yr hawl iddynt.

§ Roedd 6,043 o blant yn mynychu'r ysgol yn fwy aml.

§ Roedd 11,050 o blant wedi gwella eu perfformiad academaidd.

§ Roedd 5,181 o bobl wedi ennill cymhwyster.

 

17.         Mae gan y rhaglen hon, sydd wedi hen ennill ei phlwyf, hanes o gydweithio'n agos â phobl mewn cymunedau o amddifadedd.  Mae'r rhaglen wedi ennyn hyder pobl yn yr ardaloedd hyn, ac, fel canlyniad, mae wedi ennyn mwy o ddiddordeb ar gyfer ei gweithgareddau ac ar gyfer gweithgareddau ei rhaglenni partner.  Amlygir hynny gan y ffaith bod Adrannau eraill y Llywodraeth a phrosiectau penodol yn gallu meithrin gallu pobl yn y cymunedau a chydweithio â'r rhai hynny sydd fwyaf mewn angen yng Nghymru.  Er enghraifft, mae prosiectau ac argymhellion polisïau Ewropeaidd, megis y rhai hynny a wnaed gan y Farwnes Andrews sy'n ymwneud â diwylliant a thlodi, yn gallu defnyddio Cymunedau yn Gyntaf, fel modd o ddefnyddio grym y celfyddydau, diwylliant a threftadaeth i hybu cyfiawnder cymdeithasol yng Nghymru.

 

18.         Mae rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn cael ei defnyddio fel sail i ddarparu rhaglenni eraill, fel rhaglen Esgyn, sy'n anelu at gynnig 5,000 o gyfleoedd i gael hyfforddiant a swydd i bobl ar aelwydydd di-waith erbyn diwedd blwyddyn galendr 2017.[1] Mae rhaglen Esgyn eisoes wedi'i chydnabod yn un llwyddiannus. Mae wedi darparu'r model ar gyfer rhaglen fwy o lawer Cronfa Gymdeithasol Ewrop, sef Cymunedau am Waith, a fydd ar gael ym mhob un o Glystyrau Cymunedau yn Gyntaf.

 

19.         Mae strwythur Cymunedau yn Gyntaf hefyd yn cefnogi'r gwaith o gyflwyno rhaglenni eraill yn y gymuned, gan ddefnyddio timau Cymunedau yn Gyntaf sydd wedi'u sefydlu yn y cymunedau. Mae'r Clystyrau'n meithrin cysylltiadau â'r unigolion hynny sydd bellach i ffwrdd o'r canlyniadau a ddymunir, ac yn eu cefnogi i fod yn barod i gymryd rhan mewn rhaglenni eraill, fel Twf Swyddi Cymru. Gall y strwythur sicrhau bod unigolion yn cael eu cyfeirio i ffynonellau eraill o gymorth sy'n cael eu cynnig gan rhaglenni a darparwyr gwasanaethau eraill. Mae hefyd yn gallu gweithredu fel modd o sicrhau y gall gwasanaethau prif ffrwd wneud gwaith sy'n gysylltiedig â'r agenda i drechu tlodi.  

 

20.         Roedd adroddiad gwerthuso annibynnol y llynedd wedi dod i'r casgliad fod Cymunedau yn Gyntaf yn cael ei hystyried yn rhaglen werthfawr gan nifer o'r rhai hynny sy'n ymwneud â'i chyflawni, a chan y cymunedau hynny sy'n cael budd o'r rhaglen. Adroddwyd i'r newidiadau a wnaed i gynllun y rhaglen ers 2012 sicrhau yn gyffredinol bod y cyfleoedd i gyflawni'r nodau a monitro'r cynnydd wedi gwella.

 

 

Dechrau'n Deg

 

21.         Rhaglen sy'n ymyrryd yn ystod y blynyddoedd cynnar yw Dechrau'n Deg. Mae'r rhaglen wedi'i sefydlu ar sail y sylfaen gynyddol o dystiolaeth ryngwladol sy'n cefnogi rôl gadarnhaol dulliau ymyrryd yn ystod y blynyddoedd cynnar wrth wella datblygiad plant a phobl ifanc, gan wella eu gobeithion wrth ddatblygu i fod yn oedolion. Mae Llywodraeth Cymru wedi ehangu rhaglen Dechrau'n Deg yn sylweddol. Mae wedi ymrywmo i ddyblu nifer y plant a'u teuluoedd sy’n elwa o’r rhaglen Dechrau’n Deg o 18,000 i 36,000 erbyn diwedd tymor gweinyddiaeth hon y Cynulliad. Yn 2014-15, roedd 37,260 o blant yn cael budd o wasanaethau Dechrau’n Deg yng Nghymru ar unrhyw adeg, gan ragori ar y niferoedd disgwyliedig.

 

22.         Mae Dechrau'n Deg yn hyrwyddo bod gwasanaethau'n cael eu cyd-leoli, gan annog gweithwyr gofal plant, ymwelwyr iechyd ac amrywiaeth eang o weithwyr proffesiynol eraill i weithio yn yr un lleoliad gyda'i gilydd. Mae nifer o enghreifftiau eraill o gyd-leoli gwasanaethau, megis ysgolion a lleoliadau gofal iechyd. Mae cyd-leoli gwasanaethau yn ei gwneud yn bosibl i gynnig gwasanaeth di-dor, gan sicrhau bod y plant hynny sydd angen cymorth ychwanegol yn cael eu hatgyfeirio yn ddi-drafferth. Mae hynny'n dangos gwerth ychwanegol Dechrau'n Deg, o ran cysylltu gwasanaethau prif ffrwd â'i gilydd ac â chymunedau.  Os bydd lleoliadau gofal iechyd Dechrau'n Deg wedi'u lleoli o fewn neu wrth ymyl ysgolion, mae hynny'n helpu i sicrhau bod plant yn pontio'n ddi-drafferth i'r Cyfnod Sylfaen.

 

23.         Roedd gwerthusiad o effaith Dechrau'n Deg wedi awgrymu y gallai'r canlyniadau ar gyfer teuluoedd sy'n byw yn ardaloedd Dechrau'n Deg bellach fod cystal â chanlyniadau ar gyfer teuluoedd sy'n byw mewn ardaloedd sy'n llai difreintiedig. Roedd data ansoddol y gwerthusiad wedi dangos tystiolaeth o bob un o ganlyniadau uniongyrchol disgwyliedig y rhaglen. Mae hyn yn cynnwys sgiliau iaith plant a'u datblygiad cymdeithasol ac emosiynol. Daeth ymchwilwyr i'r casgliad bod y rhaglen Dechrau'n Deg wedi newid bywydau rhai teuluoedd sydd â lefelau anghenion uchel.

 

24.         Mae data rheoli mwy manwl yn dynodi llwyddiant penodol mewn rhai meysydd, gan gynnwys bod 85 y cant o blant 3 oed y rhaglen Dechrau'n Deg yn cyflawni'r safonau datblygu disgwyliedig, neu'n rhagori arnynt, ar gyfer sgiliau lleferydd ac iaith, a bod 92 y cant o blant 3 oed y rhaglen yn cyflawni safonau datblygu disgwyliedig, neu'n rhagori arnynt, ar gyfer sgiliau cymdeithasol rhyngweithiol.

 

25.         Fel sy'n digwydd yn achos nifer o raglenni sy'n ymyrryd yn ystod y blynyddoedd cyntaf, mae'n bosibl na fydd rhai canlyniadau'n cael eu cyflawni am nifer o flynyddoed. Mewn adroddiad a gafodd ei gyhoeddi gan y Sefydliad Ymyrraeth Gynnar y llynedd, rhoddwyd sylw i gost ariannol cyfleoedd a gollwyd i gynnig cymorth cynnar wedi'i dargedu i blant a phobl ifanc.  Casgliad yr adroddiad oedd mai ymyrraeth gynnar yw'r dewis doeth ac ymarferol o ystyried bod arian cyhoeddus yn fwy prin nag erioed. Mae gweithgarwch gwerthuso cyfredol yn cynnwys datblygu dull i ddilyn cynnydd canlyniadau plant Dechrau'n Deg wrth iddynt symud i'r system addysg a thrwyddi. Byddwn hefyd yn parhau i fonitro amrywiaeth o ganlyniadau iechyd, gan gynnwys faint o blant sy'n cael eu himiwneiddio, pwysau iach plant, a datblygiad plant.

 

 

 

Prosiect i sicrhau bod mwy o gysondeb rhwng rhaglenni trechu tlodi

 

26.  Er ein bod yn fodlon ein bod yn ariannu'r cymysgedd iawn o raglenni i gefnogi gwasanaethau prif ffrwd, rydym hefyd yn gwerthfawrogi bod lle i wella'r holl raglenni bob amser.

 

27.  Mae Llywodraeth Cymru wedi ymgymryd â darn o waith yn ddiweddar i nodi'r camau gweithredu, er mwyn sicrhau bod mwy o gysondeb rhwng y pedair prif raglen i drechu tlodi, sef Dechrau'n Deg, Cymunedau yn Gyntaf a  Chefnogi Pobl, yn barod ar gyfer y flwyddyn ariannol i ddod.

 

28.  Sefydlwyd bwrdd prosiect i wneud argymhellion ynglŷn â sut y gallai'r rhaglenni gydweithio'n well, pe byddai mwy o gysondeb a gweithgarwch integredig, pan fo hynny'n bosibl. . Mae'r bwrdd yn edrych ar sut y gellid symleiddio'r rhaglenni, er mwyn arbed arian ar weithgarwch gweinyddol i helpu i wneud y defnydd gorau o'r cyllid. 

 

29.  Sefydlwyd tri gweithgor i gynnig argymhellion ar gyllid a gwaith llywodraethu, fframweithiau perfformiad, dulliau o adrodd yn ôl, canllawiau a chyfathrebu. Roedd swyddogion Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allanol wedi cymryd rhan yn y gweithgorau hyn, ac adroddwyd eu hargymhellion i'r bwrdd prosiect. Roedd y bwrdd prosect wedi nodi nifer o gynigion ar gyfer y tymor byr a'r tymor hir, sy'n rhoi cyfle i symleiddio gwaith rhwng y pedair rhaglen. 

 

30.  Rwy'n ystyried yr argymhellion gan y bwrdd prosiect ar hyn o bryd.

 

 

Tlodi gwledig

 

31.  Dros ystod eang o ddulliau mesur, mae Cymru wledig yn tueddu i fod mewn sefyllfa well na'r gweddill o Gymru. Mae'r rhain cynnwys incymau cyfartalog, cyfraddau cymorth i'r rhai hynny sy'n hawlio budd-daliadau, safonau addysgol, safonau iechyd a chyfraddau troseddau. Fodd bynnag, er bod ardaloedd gwledig ar y cyfan yn well na chyfartaledd Cymru o ran y dulliau mesur hyn, rydym yn cydnabod nad yw hynny'n golygu nad oes unrhyw broblem, nac ychwaith bod maint y broblem yn dderbyniol.

 

32.  Yn ôl y dystiolaeth, mae angen yr un cymorth ar bobl sy'n byw mewn tlodi yn yr ardaloedd gwledig ag sydd ei angen ar y rhai hynny sy'n byw mewn tlodi mewn mannau eraill. Mae teuluoedd mewn ardaloedd gwledig yn wynebu costau byw, costau tanwydd a thrafnidiaeth sy'n uwch, yn ogystal â llai o fynediad at y rhyngrwyd.

 

33.  Gan gydnabod problem tlodi gwledig, mae Adroddiadau Blynyddol 2014 a 2015 ar y cynnydd o ran cyflawni'r amcanion yng Nghynllun Gweithredu Trechu Tlodi, wedi cynnwys y camau gweithredu sy'n cael eu cymryd i wynebu tlodi gwledig. Er enghraifft, bydd cyflwyno 'trechu tlodi' fel thema drawsbynciol ar draws pob rhan o'r Rhaglen Datblygu Gwledig, yn golygu y bydd yn rhaid i raglenni a ariennir roi sylw i'r rhai tlotaf yn eu cymunedau. Mae Gwasanaethau Cynghori a ariennir drwy Lywodraeth Cymru yn parhau i ddiwallu gwahanol anghenion pobl Cymru, gan gynnwys sicrhau bod cymorth ymarferol ar gael dros y ffôn, wyneb yn wyneb mewn swyddfeydd allgymorth a lleoliadau rhanbarthol neu mewn cartrefi pobl os bydd angen. Rydym hefyd yn cydweithio'n agos â Sefydliad Polisi Cyhoeddus Cymru i adolygu'r dystiolaeth am ddulliau ymyrryd sydd wedi llwyddo mewn cymunedau gwledig. Disgwyliwn gael adroddiad ar ein casgliadau yng ngwanwyn 2016.

 

 

Y ffordd ymlaen

 

34.  Mae tlodi'n faes cymhleth iawn. Mae pobl yn gallu profi ystod o rwystrau oherwydd eu bod yn byw ar incwm isel, sy'n golygu nad oes unrhyw atebion hawdd. Yn yr un modd, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod deinameg a phriodoleddau newid tlodi. Felly, rhaid inni asesu ein dull o weithio'n gyson, a gwneud newidiadau pan fydd angen. 

 

35.  Mae cysoni rhaglenni trechu tlodi yn rhan o'r gwaith hwnnw. Fodd bynnag, gan fod y ffordd yr awn ati i drechu tlodi yn un drawsadrannol, ac ar draws yr holl feysydd polisi, rydym am sicrhau bod ffordd gyffredin o weithio, a blaenoriaethau cyffredin, i ymdrin â thlodi.  Rydym wedi pwysleisio rôl allweddol polisïau a rhaglenni prif ffrwd i ymdrin â thlodi, ac mae cyfleoedd ar gael i gryfhau'r rôl honno. Rydym am sicrhau bod trechu tlodi yn flaenoriaeth ar draws portffolios Gweinidogon, pob Adran, a phob maes polisi perthnasol.

 

36.  Rydym wedi bod yn diweddaru ein ffordd o weithio i ganolbwyntio ar yr achosion sydd wrth wraidd tlodi. Mae'r adnoddau yn brin a'r cyllidebau yn lleihau. Yn y cyd-destun hwn, mae angen inni ganolbwyntio ar y meysydd hynny y gallwn gael yr effaith fwyaf. Mae pob un o Adrannau'r Llywodraeth wedi bod yn cydweithio i nodi'r blaenoriaethau iawn er mwyn gallu trechu tlodi. .

37.  Gan gydnabod mai cyflogaeth yw'r ffordd orau allan o dlodi, rhoddwn ein prif sylw i wneud y gorau o gyflogadwyedd pobl, gan sicrhau bod hwnnw'n cyd-fynd â'r gwaith o greu'r cyfleoedd priodol i bobl gael gwaith.  Mae buddsoddi yn y blynyddoedd cynnar hefyd yn hanfodol i iechyd a datblygiad plant yn y tymor hir, a'r hyn y gallant eu cyflawni yn nes ymlaen yn eu bywydau.

 

38.  Bydd y blaenoriaethau hyn yn cael eu hadlewyrchu yn ein ffordd o weithio wrth symud ymlaen. Rhan allweddol o weithredu gweithgareddau sy'n cefnogi hynny fydd helpu pobl yn y lleoedd y maent yn byw drwy raglenni sy'n seiliedig ar le.  Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried bod y rhaglenni sy'n seiliedig ar le yn rhan annatod o'n ffordd o weithio i drechu tlodi, ar y cyd â'r rôl a chwaraeir gan wasanaethau prif ffrwd a rhaglenni eraill.

 

39.  Bydd rôl data, ymchwil a gwaith gwerthuso yn parhau i lywio ein ffordd o fynd ati i drechu tlodi. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod ei bod yn hanfodol inni wybod am werth yr adnoddau yr ydym yn eu buddsoddi mewn polisïau a rhaglenni, gan gynnwys gwybod a ydynt yn arwain at ganlyniadau cadarnhaol ar gyfer y bobl sy'n elwa arnynt.

 

40.  Fel rhan o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), rydym wedi ymrwymo i'r saith nod llesiant, ac un ohonynt yw 'Cymru o gymunedau cydlynus’. Mae'n hanfodol ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gyflawni'r nod honno. Os ydym am wneud hynny, rhaid inni neilltuo adnoddau i rai o'n cymunedau tlotaf a mwyaf agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod yn gynaliadwy, yn ddiogel a'u bod yn cael pob cyfle i ffynnu.

 



[1] Ers 30 Tachwedd 2015, mae 2,744 o gyfleoedd i gael hyfforddiant a gwaith wedi'u darparu, a 520 o bobl wedi cael cymorth i ddechrau swydd.